Rhif y ddeiseb: P-06-1355 Teitl y ddeiseb: Dylid cynnal refferendwm yn gofyn am gymeradwyaeth y bobl i gynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd o 36 Geiriad y ddeiseb: Er bod llawer yn ei chael hi’n anodd bwydo a chynhesu eu hunain, mae gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn mynnu ein bod ni, y trethdalwyr, yn ariannu 36 o Aelodau o’r Senedd ychwanegol, drud, eu staff ychwanegol a'r hualau cysylltiedig â phŵer. |
Ers 2004, mae cyfres o adroddiadau wedi argymell y dylai maint presennol y Senedd, sef 60 o Aelodau, gael ei gynyddu.
Rhoddodd Deddf Cymru 2017 bwerau i'r Senedd mewn perthynas â'i maint a'i threfniadau etholiadol heb fod angen refferendwm. Bydd angen i uwchfwyafrif (40 o’r 60 Aelod o’r Senedd) bleidleisio dros unrhyw Fil a gyflwynir ar ddiwygio’r Senedd iddo basio.
Mae adran 64 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006yn rhoi pŵer i Lywodraeth Cymru gynnal pleidlais i gael barn pobl Cymru ynghylch swyddogaethau Gweinidogion Cymru. Nid yw hwn yn fecanwaith ar gyfer cynnal pleidlais uniongyrchol na refferendwm uniongyrchol ar gynnig penodol.
Ym mis Chwefror 2017, penododd y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad Banel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i ystyried a oes angen mwy o aelodau ar y Cynulliad i gyflawni ei swyddogaethau craffu a deddfwriaethol.
Argymhellodd y Panel Arbenigol y dylai maint y Cynulliad gynyddu i “80 Aelod fan lleiaf, ac yn ddelfrydol i 90 Aelod”. Canfu fod deddfwrfa â 60 Aelod yn fach o’i chymharu â’r rhan fwyaf o’r deddfwrfeydd tebyg, a bod diffyg capasiti yn cyfyngu’n ddifrifol ar amser yr Aelodau.
Cafodd Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ei sefydlu i ystyried canfyddiadau’r Panel Arbenigol, ac i ystyried opsiynau ar gyfer diwygio’r Senedd. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei gasgliadau ym mis Medi 2020.
Argymhellodd y dylai maint y Senedd gynyddu i fod â rhwng 80 a 90 Aelod, a hynny o’r etholiad yn 2026 ymlaen. Roedd hefyd yn argymell i system etholiadol y bleidlais sengl drosglwyddadwy gael ei defnyddio. Ni chynigiodd y Blaid Geidwadol Aelod ar gyfer y Pwyllgor. Hefyd, cyn i’r Pwyllgor allu gorffen ei waith, amharwyd arno gan ymddiswyddiad David Rowlands, Aelod Plaid Brexit, a chan y pandemig COVID-19.
Sefydlwyd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ym mis Hydref 2021 a gofynnwyd iddo wneud argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi i Fil Llywodraeth Cymru ar ddiwygio'r Senedd.
Argymhellodd y Pwyllgor Diben Arbennig y dylai’r Senedd gynyddu o ran maint i 96 Aelod. Argymhellodd gyflwyno system cynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr gaeedig, a chreu 16 o etholaethau newydd drwy baru etholaethau presennol Senedd y DU. Dywedodd y Pwyllgor hefyd y dylai’r Senedd newydd gynnwys cwotâu rhywedd, mesurau gwell ar gyfer casglu data am amrywiaeth ymgeiswyr a gweithdrefnau ar gyfer rhannu swyddi.
Ymddiswyddodd cynrychiolydd y Ceidwadwyr o’r Pwyllgor cyn i adroddiad y Pwyllgor gael ei gytuno. Cafodd rhai o’r prif argymhellion eu derbyn gan fwyafrif ar y Pwyllgor, ond nid gan bob Aelod.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ddatganiad ar y cyd ar 10 Mai 2022, yn dadlau y dylai’r Senedd gael 96 Aelod ac y dylid defnyddio system gyfrannol rhestr gaeedig i’w hethol.
Yn ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb hon, dywedodd y Prif Weinidog:
“Roedd ymrwymiad i ddiwygio’r Senedd wedi ei gynnwys ym maniffestos pleidiau gwleidyddol Llafur Cymru, Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn etholiad y Senedd yn 2021.
Mae Deddf Cymru 2017 wedi datganoli pwerau mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd, gan gynnwys y system etholiadol, ymddygiad, etholfraint a chofrestru. Mae hyn yn cynnwys pŵer i’r Senedd ddeddfu i newid ei maint, a hynny heb gynnal refferendwm cyn defnyddio’r fath bŵer.
Yn yr un modd, nid yw wedi bod yn ofynnol cynnal refferendwm ar gyfer lleihau nifer yr Aelodau Seneddol o Gymru o 40 i 32, yn sgil y newidiadau i ffiniau etholaethau a gyflwynwyd yn San Steffan.
Mae achos cryf a chlir wedi cael ei roi gerbron, dro ar ôl tro, dros ddiwygio Senedd Cymru. Mae hyn wedi bod yn destun cyfres o banelau arbenigol ac adroddiadau comisiwn. […] Mae rolau a chyfrifoldebau’r Senedd wedi tyfu’n helaeth [ers ei chreu ym 1999]. Bellach, mae’r Senedd yn gwneud deddfau a chyfraith, yn codi trethi ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn rhai meysydd sy’n cael yr effaith fwyaf ar fywydau pobl. […]
Mae’n hanfodol bod Senedd Cymru yn sefydliad priodol ei maint, er mwyn iddi allu cynnal swyddogaethau craffu yn effeithiol a dwyn y Llywodraeth i gyfrif.”
Fel rhan o'i rhaglen ddeddfwriaethol sydd ar ddod, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Bil diwygio’r Senedd yn cael ei gyflwyno yn yr hydref. Bydd Bil ar wahân yn cyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr i'w hethol i'r Senedd.
Trafododd y Senedd adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar 8 Mehefin 2022. Dywedodd Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y Pwyllgor:
“ni cheir un pecyn perffaith digymysg o ddiwygio etholiadol a fydd yn bodloni pawb. [...] amcan [...] ein pwyllgor oedd dod o hyd i argymhellion y mae'n rhaid iddynt hefyd ennill cefnogaeth ar draws y Senedd gyfan [...] nid ceisio sicrhau rhyw weledigaeth o berffeithrwydd, a thrwy hynny aberthu ymarferoldeb a gallu i'w gyflawni erbyn 2026.”
Dywedodd Mr Irranca-Davies fod angen mwy o gapasiti ar y Senedd i gyflawni’r cyfrifoldebau ychwanegol a ysgwyddwyd ers i’r Cynulliad gael ei sefydlu ym 1999. Mae’r rhain yn cynnwys pwerau deddfu sylfaenol, pwerau i fenthyca ac amrywio trethi, gwaith ychwanegol a grëwyd wrth i bwerau ddychwelyd o’r UE yn sgil Brexit, mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o gyfrifoldebau’r Senedd oherwydd y pandemig COVID-19, a’r “potensial hwnnw, nad yw'n afrealistig, o gyfrifoldebau ychwanegol yn y dyfodol”.
Roedd Darren Millar, Gweinidog yr Wrthblaid ar y Cyfansoddiad, yn beirniadu’r cynigion, gan ddadlau nad dyma’r amser iawn i gynyddu maint y Senedd. Dadleuodd Rhys ab Owen, llefarydd Plaid Cymru ar y cyfansoddiad ar y pryd, fod angen Senedd fwy “i graffu ar Lywodraeth Cymru yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon”.
Pleidleisiodd y Senedd o blaid y cynnig i dderbyn yr argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig, gyda 40 Aelod yn pleidleisio o blaid a 14 yn pleidleisio yn erbyn. Yn y modd hwn, bodlonwyd y gofynion i sicrhau ‘uwchfwyafrif’ o ddwy ran o dair o’r Senedd i ganiatáu i Fil ar ddiwygio’r Senedd gael ei gyflwyno.
Bydd y Senedd yn craffu ar Fil Diwygio’r Senedd sydd ar ddod. Disgwylir iddo gael ei gyflwyno yn gynnar yn nhymor yr hydref.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |